Archifdy Ceredigion yw swyddfa gofnodion y sir a elwid gynt yn Sir Aberteifi (yn Saesneg, Cardiganshire).
Rydym yn casglu ac yn cadw dogfennau'n ymwneud â hanes Ceredigion, ac yn sicrhau eu bod ar gael i bwrpas gwaith ymchwil.
Sefydlwyd Archifdy Ceredigion yn wreiddiol yn 1974, fel trydedd swyddfa Gwasanaeth Archifau Dyfed. Bryd hynny câi ei alw'n Archifdy Rhanbarthol Sir Aberteifi. Yn 1996, gydag ad-drefnu llywodraeth leol, ail-lansiwyd yr archifdy fel Archifdy Ceredigion. Hyd heddiw, mae hwn ymhlith y lleiaf o'r archifdai sirol. Mae dogfennau swyddogol a phreifat yn ymwneud a hanes y sir yn cael eu cadw yma.
Mae yna bump aelod parhaol o staff archifau ar hyn o bryd:
Helen Palmer (Archifydd y Sir)
Mair Humphreys (Archifydd/Rheolwr Cofnodion)
Ania Skarzynska (Uwch Archifydd)
Tamzin Craine (Prif Gynorthwy-ydd Archifau a Chofnodion)
Margaret Jones (Cynorthwy-ydd Archifau )
Mae gan bob un ohonynt brofiad helaeth o weithio gydag archifau, ac y maent bob amser yn fodlon iawn i gynnig cyngor ar unrhyw agwedd o ymchwilio i hanes lleol neu hanes teuluol. Os byddwch yn
ymweld â'r Archifdy, gallant ddangos i chi sut i gael y gorau allan o gasgliadau Archifdy Ceredigion, a sut i ddefnyddio'r gwahanol ddarllenyddion microffilm a microfiche yn yr ystafell ddarllen. Gellir
cysylltu â hwy drwy lythyr, dros y ffôn neu drwy e-bost.
Gallwch chi helpu Archifdy Ceredigion yn y ffyrdd canlynol
• Defnyddio'r
gwasanaethau sydd ar gael
•
Cyfrannu eitemau at y casgliadau
•
Rhoi arian ar gyfer prosiectau gwarchod
•
Gwirfoddoli i helpu yn yr Archifdy
• Dweud wrth eich ffrindiau amdanom ni