Chwilio

 
 
Y cynllun logo a ddewiswyd. (ref. FOH.B/01/19.1)

Cyfeillion yr Hafod 1986-2004



Mae stad Hafod Uchtryd, rhyw 12 milltir i'r de-ddwyrain o Aberystwyth, yn dirlun hanesyddol rhestredig Gradd 1, a llawer ohono wedi ei ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI).

 Pyran Cascade Entire, lithograff gan J. C. Stadler, cyf. FOH.A/08/187.3


Gyda'r stad yn wreiddiol yn rhan o ddaliadau mynachdy Ystrad Fflur, mae nifer o bobl wedi bod yn berchenogion arni, gan gynnwys yr un mwyaf enwog ohonynt i gyd, sef Thomas Johnes (1749–1816).

Llun siarcol: portread o Thomas Johnes, gan F. Huet-Villiers, 1808 (cyf. FOH.A/05/49)


Roedd Johnes yn ffigur allweddol yn y mudiad Pictiwrésg, mudiad a ddatblygodd ym Mhrydain yn rhan olaf y 18fed ganrif, gyda'i agwedd esthetaidd at nodweddion natur. Gan fanteisio ar botensial naturiol y stad, plannodd Johnes filiynau o goed, ac adeiladu llwybrau a arweiniai at nodweddion naturiol megis rhaeadrau, creigiau a golygfannau dramatig.

Roedd y baradwys Bictiwrésg a ddeilliodd o'i ymdrechion yn denu llawer iawn o ymwelwyr, yn cynnwys ffigurau allweddol a gynrychiolai agweddau cyfoes tuag at Wyddoniaeth, Amaethyddiaeth, y Celfyddydau a'r Deall.

Drwy gydol y 19eg a'r 20fed ganrif byddai teithwyr yn parhau i gyrchu i'r Hafod fel man hanfodol i ymweld ag ef, lle gallent brofi 'Natur wyllt' ar ei orau; dewisodd llawer ohonynt gofnodi eu profiadau mewn dyddiaduron, neu eu defnyddio fel ysbrydoliaeth ar gyfer gweithiau creadigol.

 Cavern Cascade, lithograff gan J. C. Stadler, cyf. FOH.A/08/187.1


Pan werthwyd y stad yn 1947 nid oedd neb yn awyddus i brynu'r ty; o ganlyniad, aeth â'i ben iddo ac fe'i dymchwelwyd yn 1958. Defnyddiwyd llawer o'r tir cyfagos ar gyfer coedwigaeth, a'r Comisiwn Coedwigaeth sy'n berchen ar y stad er 1952. Esgeuluswyd y tirlun i raddau helaeth am dros ddeng mlynedd ar hugain hyd yr 1980au pan fynegwyd pryderon gan y perchenogion, ac eraill oedd â diddordeb yn y lle, ynghylch y dirywiad a welid yn yr hyn oedd yn weddill o'r elfennau a wnaed â llaw dyn, yn enwedig yr elfennau Pictiwrésg hynny a ddatblygwyd gan Thomas Johnes.

Adfeilion Hafod Uchtryd. Llun lliw a dynnwyd cyn dymchwel y ty ym 1958. Cyf. FOH.A/08/05.1


Ym mis Gorffennaf 1986, sefydlwyd Cyfeillion yr Hafod fel cymdeithas wirfoddol ac iddi'r amcanion isod:
Un o'r camau wrth gynllunio logo Cyfeillion yr Hafod, c. 1987. Cyf. FOH.B/01/19.2

• I hybu gwarchod, diogelu a, lle bo hynny'n ymarferol, adfer yr hyn sy'n weddill o stad Hafod Uchtryd, Ceredigion, fel y'i cynlluniwyd gan Thomas Johnes, ac fel y'i datblygwyd gan berchenogion a deiliaid ar ôl ei gyfnod ef.
• I hybu diddordeb yn y stad yng nghyd-destun hanes, daearyddiaeth ac astudiaethau natur.
• I hybu ymchwil addysgol ar bob lefel.
• I gydweithio ag unrhyw sefydliad neu unigolyn sy'n rhannu'r un amcanion â'r gymdeithas.


Ar y dechrau, arferai'r aelodau gwrdd yn fisol yn nhafarn y Miners Arms, Pontrhydygroes, lle gwahoddid nifer o siaradwyr gwadd i annerch ar bynciau'n ymwneud â'r Hafod, y perchenogion, y tirwedd a hanes y gerddi. Nodwyd yng nghofnodion y cyfarfodydd hynny gynnwys y trafodaethau deallus a gynhelid, yn adlewyrchu pryderon a fynegwyd ynghylch datblygiadau yn yr Hafod. Byddai cylchlythyron rheolaidd yn cynnwys erthyglau diddorol, wedi eu hymchwilio'n drwyadl, a chyhoeddid bwletinau i roi gwybodaeth gyfredol ar ddigwyddiadau yn yr Hafod ac ar ychwanegiadau diweddar i archif y Cyfeillion – archif a oedd yn tyfu'n barhaus, gan ffurfio adnodd a adlewyrchai ystod eang yr ymchwil a wnaed gan y nifer cynyddol o aelodau. Cadwai'r Comisiwn Coedwigaeth mewn cysylltiad agos â'r Cyfeillion o'r dechrau, a byddid yn ymgynghori ag archif Cyfeillion yr Hafod pan fyddai angen gwybodaeth ar gyfer rheoli'r stad neu wrth baratoi ar gyfer gwahanol brosiectau adnewyddu. Roedd y gymdeithas yn llawn deilyngu cael ei galw'n Gyfeillion, gyda'r aelodau'n gwarchod yr Hafod yn egnïol trwy wasanaethu ar wahanol bwyllgorau a sefydlwyd i gynghori ar, a rheoleiddio, datblygiadau yn yr 1990au, ac fel gwarchodwyr a chofnodwyr ar lawr gwlad.

Tirlun yr Hafod. Cyf. FOH.A/08/05.2


Mae casgliad Cyfeillion yr Hafod bellach yn dwyn ynghyd mwy na 2,500 o eitemau unigol yn cynnwys llyfrau, erthyglau, copïau o weithiau celf, ffotograffau (rhai cynnar a diweddar), mapiau, toriadau papur newydd a chyfweliadau ar dâp. Mae llawer o'r eitemau hyn yn adlewyrchu'r lle arbennig sydd i'r Hafod yn hanes tirluniau ac estheteg y cyfnod Pictiwrésg, a'i bwysigrwydd fel canolfan lle datblygwyd syniadau blaengar mewn coedwigaeth, ffermio, rheoli stadau a thwristiaeth. Cynhwysir hefyd gasgliad eang o ddeunyddiau'n ymwneud â hanes gerddi, hanes lleol, artistiaid unigol, ac adroddiadau gan rai a ymwelodd â'r stad o'r 1700au hyd yn gymharol ddiweddar.

Yn ystod y 1990au gwnaed defnydd o'r casgliad gan ysgolion lleol, a disgrifiwyd ef ar y pryd gan bennaeth adran yn Ysgol Uwchradd Tregaron fel 'adnodd ardderchog a gwirioneddol amhrisiadwy wrth gasglu gwybodaeth ar gyfer gwaith cwrs – mae'r Hafod yn ffynhonnell wych o ysbrydoliaeth ar gyfer gwaith yn yr ystafell ddosbarth; mae'n hynod gyfoethog mewn symbyliadau diwylliannol, hanesyddol ac esthetaidd'.

Y Gofeb a godwyd gan Johnes yn 1802 i goffáu Francis, Dug Bedford. Llun lliw a dynnwyd cyn adfer y gofeb. Cyf. FOH.A/08/05.5

Yng nghyd-destun yr Hafod, hwn yw'r adnodd mwyaf helaeth a chynhwysfawr sydd mewn bodolaeth a bu'n gymorth mawr mewn nifer o brosiectau ymchwil ar bob lefel, o weithgareddau mewn ysgolion cynradd i ymchwil ar gyfer traethodau Doethuriaeth. Darparodd hefyd ddeunydd ymchwil hanesyddol gwbl angenrheidiol ar gyfer nifer fawr o brosiectau ymarferol, megis ailadeiladu pyrth gardd Adda ac Efa yn yr Hafod, a phrosiectau cadwraeth ac adnewyddu eraill, yn cynnwys adfer Cofeb Bedford ac atgyweirio nifer o'r llwybrau cylchedol. Cafwyd gwybodaeth a chymorth hefyd gan y Cyfeillion, trwy gyfrwng deunyddiau yn eu harchif, wrth restru a dyddio gwahanol arteffactau ac adeiladau ar stad yr Hafod, yn cynnwys Gardd Gegin yr Hafod.

Tynnwyd lluniau o'r amryw brosiectau gan aelodau o'r Cyfeillion yn ystod gwahanol gamau yn y gwaith, fel rhan o'u rôl fel gwarcheidwaid y stad. Mae'r cofnod ffotograffig a ddeilliodd o hyn yn cynnig cofnod unigryw o'r gwaith a wnaed dros y blynyddoedd i adfer y stad hanesyddol hon.

Ailosod cerrig ar ôl y gwaith o adfer Cofeb Dug Bedford. Llun gan B.A. Hallett, 1988. Cyf. FOH.A/09/72.3


Mae stad yr Hafod yn parhau i fod yn safle o gryn bwysigrwydd yn y gwaith o warchod rhywogaethau a chynefinoedd; mae'r dull o'i rheoli gan Mentrau Coedwigaeth yn darparu ar gyfer y gwaith o warchod planhigion ac anifeiliaid, a cheir gwybodaeth mewn arolygon yn yr archif (arolygon a gychwynnwyd ac a wnaed, mewn rhai achosion, gan Gyfeillion yr Hafod) am goed, planhigion isel, ystlumod, ffyngau, pili-palod ac adar a welir yno.

Am dros 15 mlynedd, gwnaed cyfraniad clodwiw gan Gyfeillion yr Hafod i'r gwaith o hybu ymchwil, addysg a chadwraeth, ac i godi ymwybyddiaeth o stad yr Hafod. Gyda'r bwriad o hybu'r amcanion hyn, maent yn garedig iawn wedi cyflwyno eu harchif i Archifdy Ceredigion; bellach cafodd y cyfan ei gatalogio a'i ailbecynnu i gwrdd â safonau archifol rhyngwladol (gyda chymorth arian gan Gyfeillion yr Hafod a grant o CyMAL, corff dan ofal y Cynulliad Cenedlaethol sydd â chyfrifoldeb dros Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd). Erbyn hyn, mae'r archif ar gael i'r cyhoedd i bwrpas ymchwil. I gael mynediad i'r catalog ar-lein, sy'n rhoi manylion o'r holl eitemau yn y casgliad, cliciwch yma.
Fel arall, estynnir croeso cynnes i ymchwilwyr ymweld â'r swyddfa i astudio'r dogfennau drostynt eu hunain.
Cymdeithas Hynafiaethwyr yn ymweld â Hafod, 1911.  Mae Thomas James Waddingham, yr hen sgweier, yn eistedd yn y rhes flaen, y 4ydd o


Mae Casgliad Stad yr Hafod, yn cynnwys dogfennau gwreiddiol sy'n berthnasol i'r stad ac sy'n dyddio o'r 18fed ganrif ymlaen, hefyd ar gael yn Archifdy Ceredigion. Mae'r casgliad hwn yn cynnwys llawer o wybodaeth ychwanegol am y stad a'i pherchenogion, a gellir gweld y cyflwyniad a'r catalog yma.

 Hafod old house, gan Elizabeth Anne Salvin. 1848. Cyf. FOH.A/11/53







Datblygwyd y wefan gan Technoleg Taliesin
Gweinyddu