Chwilio

 
 

Casgliad Gwilym Evans a Bridfa Blanhigion Cymru



Mae'r casgliad mawr hwn yn cynnwys papurau'r diweddar Gwilym Evans, gwyddonydd planhigion ym Mridfa Blanhigion Cymru, ym Mhenrhyn-coch, ger Aberystwyth.

Mae'r papurau'n adlewyrchu ei ddiddordebau ymchwil. Mae'r rhan fwyaf yn ymwneud â gwella glaswelltiroedd, cynnyrch cnydau a lluosi hadau. Mae yna ddarn sy'n delio'n benodol â gwenyn a'u rhan mewn peillio'r feillionen a phlanhigion eraill. At hynny, ceir rhai dogfennau sy'n ymwneud a'i deulu a hanes lleol.

Dim ond y rhan sy'n ymwneud â Chadw Gwenyn sydd wedi'i chatalogio hyd yma.

Gweler adran Papurau Personol a Phroffesiynol ('Personal & Professional Papers') o'r catalog.

Cadw gwenyn


Gwybodaeth fywgraffyddol a chyd-destunol


Sefydlwyd Bridfa Blanhigion Cymru yn 1919 mewn cysylltiad â CPC Aberystwyth. Ei chyfarwyddwr cyntaf oedd yr Athro (yn ddiweddarach, Syr) George Stapledon.
Fe'i lleolwyd yn gyntaf yn Ffordd Alexandra ac yna ar Gampws Penglais, gan symud wedyn yn 1953 i Blas Gogerddan ger Penrhyn-coch, cyn gartre'r teulu Pryse.

Mae Bridfa Blanhigion Cymru wedi ennill enw da ar draws y byd am ddatblygu mathau newydd o rawn, ffa a chnydau bwyd eraill. Hefyd, mae wedi ennill bri byd-enwog am ddatblygu porfa trwy fridio rhywogaethau gwell o laswelltau a meillion.

Ganed Gwilym Evans yn 1896 ym Mhenlan Fawr, Llanddarog, Sir Gaerfyrddin, i rieni o amaethwyr Cymraeg. Roedd ei swydd gyntaf mewn banc, ond yn dilyn marwolaeth ei dad, cofrestrodd â'r Adran Gwyddoniaeth Amaethyddol, CPC Aberystwyth, er mwyn dilyn gradd mewn Botaneg. Enillodd radd dosbarth 1af yn 1924.

Yn dilyn hynny, cafodd waith ym Meirionydd fel ymgynghorydd yn cyflwyno mathau o had newydd i ffermwyr. Yn 1929, ymunodd â Bridfa Blanhigion Cymru; ychydig cyn hynny, sefydlwyd adran newydd yno oedd yn ymwneud â lluosi hadau. Rhoddwyd Gwilym Evans yng ngofal y dasg o gynhyrchu hadau stoc o hadau newydd a fridiwyd ac a drosglwyddwyd gan arbenigwyr y Fridfa. Roedd yn rhaid iddynt gael eu bridio yn ddigon niferus er mwyn cwrdd â gofynion y ffermwyr. Trosglwyddwyd y dasg i dyfwyr mewn ardaloedd addas oedd â lefelau glaw isel, yn bennaf yn y Gororau; cynaeafwyd yr hadau hynny gan offer y Fridfa ac yna fe'u trosglwyddwyd i Aberystwyth i'w prosesu a'u dosbarthu.

Ochr yn ochr â lluosi hadau, ymchwiliodd Gwilym Evans i dechnegau ar gyfer macsimeiddio cynnyrch yr hadau. Daeth yn gadwr gwenyn brwd er mwyn astudio'u pwrpas mewn peillio'r feillionen a phlanhigion eraill. Cyhoeddodd dros 200 o bapurau ynglyn â thechnoleg a deddfwriaeth yn ymwneud â hadau.

Ei ddiddordebau eraill oedd hanes lleol ei sir frodorol (yn 1982, cyhoeddwyd ei hanes o Gapel Seion, Drefach, Llanelli) a materion yn ymwneud â iaith a diwylliant Cymru. Roedd hefyd yn aelod gweithgar o Eglwys yr Annibynwyr Cymraeg.

Bu farw Gwilym Evans yn 1983 ac fe'i goroeswyd gan ei ail wraig, Doris Evans.


Llyfryddiaeth


Gwilym Evans, Pioneers of Gogerddan, Cambrian News 1987
Idris Jones, From the Grass Roots - A Lifetime in the Welsh Plant Breeding Station, D Brown a'i Feibion, 1982

Gyda diolch i Steve Smith (Llyfrgellydd yr Athrofa) a'r Dr Athole Marshall (Gwyddonydd Ymchwil), IGER.

Datblygwyd y wefan gan Technoleg Taliesin
Gweinyddu