Tudalen Hafan / Home Page

Newyddion



Gellir cael hyd i'n hen newyddlenni (mewn fformat .pdf) fan hyn.


Wynebau newydd yn yr Archifdy


Gyda chyllid oddi wrth Gronfa Swyddi'r Dyfodol, ymunodd Liz Clubbe a Darren Williams â ni yn ddiweddar. Byddan nhw gyda ni am bedwar diwrnod yr wythnos am y chwe mis nesaf ac rydym eisoes yn elwa ar eu gwaith. Yn ogystal â chynorthwyo gyda thasgau eraill o gwmpas y swyddfa, mae Liz wedi rhestru dogfennau'r “Castle Green” [Aberteifi] (rhan o Gasgliad yr Amgueddfa) ac mae hi ar hyn o bryd yn rhestru gweithredoedd Ystâd y Priordy [sydd hefyd yn ymwneud ag Aberteifi]; mae Darren wedi cwblhau gwaith ar gatalogio cynlluniau adeiladau Bwrdeistref Aberystwyth, ac wedi bod yn didoli ac yn rhestru eitemau o gasgliad 'Aberystwyth Ddoe' sy'n gymysgfa helaeth o luniau, dogfennau ac effemera sy'n ymwneud â'r ardal. Mae gennym rai projectau eraill ar eu cyfer - yn benodol, rydym yn bwriadu mynd i'r afael â'r catalog o gofnodion ysgol. Dylai canlyniadau'r gweithgareddau hyn fod ar gael yn fuan yn ein catalog.

Mae'n bryd inni ffarwelio a diolch yn fawr iawn i David Fitzpatrick a fu yma o dan hyfforddiant am y flwyddyn ddiwethaf. Bu'n gweithio gyda ni am ran o'r wythnos ac yna yn Archifdy Prifysgol Aberystwyth a'r Adran Rheoli Cofnodion ar ddiwrnodau eraill. Bellach, mae David ar fin dechrau cwrs Gweinyddu Archifau ym Mhrifysgol Aberystwyth – y cam olaf ar y llwybr i fod yn archifydd. Er hynny, ni fyddwn yn hir heb rywun dan hyfforddiant! Yn ddiweddar, penodwyd Robert Astin i gymryd lle David a charwn estyn ein croeso iddo yntau.


NEWYDD! CYNLLUNIAU RHEOLI ADEILADU – ADNAWDD GWYCH AR GYFER YMCHWILIO I HANES TAI A DATBLYGIADAU YN ABERYSTWYTH



Rydym yn falch iawn i gyhoeddi fod Cam Un o Gatalog Cynlluniau Adeiladau Aberystwyth wedi cyrraedd ein gwefan. Nid yw'r gwaith eto'n gyflawn ond mae digon o'r casgliad wedi'i gatalogio iddo fod o fudd i ymchwilwyr. Carem ddiolch i'n byddin wrol o wirfoddolwyr a gweithwyr dan hyfforddiant, o'r gorffennol a'r presennol, sef Matthew, Jake, Gary, Hannah, Zbigniew a Liz, am eu gwaith campus ar y project.

Aeth Aberystwyth trwy gyfnod o ehangu ac ailadeiladu ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif. Roedd cyfreithiau cynllunio'n llai caeth bryd hynny nag yn awr; er hynny, roedd yn rhaid cyflwyno cais, ynghyd â chynllun (wedi'i lunio gan bensaer fel arfer) er cymeradwyaeth yr Awdurdod Cynllunio sef Adran Rheoli Adeiladu Bwrdeistref Aberystwyth. Mae nifer o'r cynlluniau hyn wedi goroesi a bellach, mae yna restr ar gael. Maent yn amrywio o gynlluniau ar gyfer tai cwbl newydd - megis y terasau bric coch o gwmpas Ffordd Stanley - i estyniadau, ystafelloedd ymolchi newydd a hyd yn oed 'troi stabl yn fodurdy'!

Cyf. ABM/BC/S/11


Wrth gyflwyno cynllun, caiff ei gofnodi mewn lejer o dan enw'r stryd (neu ardal) lle bwriedir codi'r adeilad. Rydym wedi cadw'r trefniant hwn: mae'n darparu ar gyfer ehangiad (petai cynlluniau pellach yn cael eu darganfod) heb gyfaddawdu strwythur y catalog. Mae cofnodion y catalog yn dangos y rhif cyfeirnod newydd sy'n ymgorffori (ar ôl ABM/BC) llythyren gyntaf enw'r stryd fel y mae nawr, a hefyd cyfuniad y llythyren/rhif oedd iddi yn y lejer. Os nad yw llythrennau'r stryd yn cyfateb, y rheswm am hynny yw bod enw'r stryd wedi newid, ambell waith yn fwy nag unwaith.

Ni roir rhif y ty bob tro, ond rhyw ddydd gobeithiwn baru'r cynlluniau â rhifau ac enwau'r tai presennol.

Dilynwch y ddolen hon i weld y catalog.

Casgliad yr Amgueddfa



Rydym yn falch o gyhoeddi fod Samantha, ein gwirfoddolwr newydd, yn gweithio ar Gasgliad yr Amgueddfa!

Mae Casgliad yr Amgueddfa'n gymysgfa amrywiol o gasgliadau bychain a ddaeth i Archifdy Ceredigion o Amgueddfa'r Sir. Cafodd y rhan fwyaf ohonynt eu rhoi'n wreiddiol i'r Amgueddfa yn nyddiau Dyfed (sef y Sir a grëwyd o hen siroedd Aberteifi, Caerfyrddin a Phenfro pan ad-drefnwyd llywodraeth leol yn 1974; dychwelwyd i'r drefn flaenorol yn 1996).

Roedd Amgueddfa Ceredigion yn meddu ar gysylltiadau cryfach â'r hen Sir Aberteifi ac roedd yn well gan nifer o bobl roi'u heitemau yno yn hytrach nag i Archifdy Dyfed, sef y pencadlys a leolwyd yng Nghaerfyrddin.

Ar ôl adfer Sir Aberteifi (a'i hailenwi'n Ceredigion) yn 1996 a chreu'r Archifdy yn Aberystwyth, trosglwyddwyd y dogfennau o'r Amgueddfa i'w cadw yno.

Mae Samantha yn didoli ac yn pecynnu'r dogfennau ac yn paratoi rhestr y gobeithiwn y bydd ar gael cyn bo hir ar ein catalog ar-lein.


Peiriant Chwilio Newydd



Mae'n bleser gennym gyhoeddi ein peiriant chwilio newydd ar y wefan. Efallai ichi sylwi fod yr un hen braidd yn fympwyol – neu efallai na chawsoch unrhyw ganlyniadau i'ch ymchwiliad o gwbl! Dylai'r peiriant newydd fod yn welliant mawr.

Dyma'r prif newidiadau:

1) Bellach, dylai ddychwelyd canlyniadau yn ôl rhyw fath o flaenoriaeth – dylai ymadroddion llawn ddod allan yn gyntaf, gydag ymadroddion rhannol yn is ar y rhestr. Tueddir i roi blaenoriaeth uwch i deitlau yn hytrach na thestunau sy'n cyfateb. Trïwch 'Llanddewi Brefi'
2) Gall ymdopi â nodau megis '/' (a ddefnyddir yn aml yn ein rhifau catalog / cyfeirnod) e.e. mae chwiliad ar gyfer ADX/123 bellach yn gweithio (er dim ond yn rhan Catalog ac nid yn rhan Derbyniadau Newydd y canlyniadau; hyderwn y caiff hyn ei ddatrys yn fuan)
3) Mae'r peiriant braidd yn rhyfedd gyda geiriau 3-llythyren – mae'n pigo geiriau sy'n dechrau gyda'r ymadrodd e.e. bydd 'cat' yn dod o hyd i 'cataract'.
4) Unig bwrpas yr opsiwn rhagosodedig yw chwilio am gofnodion sy'n cyfateb i'r holl eiriau a gofnodwyd – mae'r opsiwn i gyfateb ag unrhyw rai ohonynt ar gael.
5) Mae'r ffilter i 'chwilio am set benodol o gasgliadau' wedi'i dynnu ymaith am y tro ond bydd yn dychwelyd maes o law.
6) Caiff geiriau o fewn ymadroddion gydag 1 neu 2 lythyren eu hanwybyddu'n gyfan gwbl.
7) Bellach, mae chwiliadau'r Gofrestr Dderbyniadau yn amlygu cyfatebion.

Mae croeso mawr ichi anfon eich sylwadau a'ch awgrymiadau atom!


Oriau Agor Newydd ar gyfer Archifdy Ceredigion


Yn dechrau Dydd Llun, 30 Tachwedd 2009


Dydd Llun 10yb – 6yh

Dydd Mawrth 10yb – 5yp

Dydd Mercher 10yb – 5yp

Dydd Iau 10yb - 4yp

Dydd Gwener 10yb - 4yp


Fe sylwch ein bod wedi penderfynu cau am awr yn gynharach ar ddydd Llun ond i wneud iawn am hynny, byddwn yn agor am hanner awr yn ychwanegol ar ddydd Mawrth a dydd Mercher. Y rheswm am hyn yw'r nifer fach iawn o bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth rhwng 6yh a 7yh ar ddydd Llun. Fodd bynnag, os ydych yn Aberystwyth ond am gyfnod byr a'ch bod eisiau amser ychwanegol ar gyfer ymchwil, gallwn wastad aros ar agor yn hwyr – cysylltwch â ni i drafod y mater, os gwelwch yn dda.


Ni fyddwn yn symud!



… ond mi fyddwn ar gau i'r cyhoedd am yr wythnos 14-18 Medi, 2009.

Ym mis Medi, bydd y Cyngor Sir yn ail-leoli rhan fwyaf ei swyddfeydd yn Aberystwyth i'r adeilad newydd yn Boulevard St. Brieuc [Coedlan y Parc]. Bydd Archifdy Ceredigion yn cynorthwyo'r dasg o symud ac o'r herwydd, gallwn ond â chynnig gwasanaeth cyfyngedig o 31 Awst i 11 Medi. Byddwn yn gweithredu ein horiau agor arferol ond bydd yn rhaid archebu unrhyw ddogfennau ymlaen llaw. Ar yr wythnos ddilynol, byddwn ar gau – gweler uchod.

Nid yw Archifdy Ceredigion ei hun yn symud i'r adeilad newydd. Byddwn yn aros yn Swyddfa'r Sir hyd y gellir ei ragweld (er bod gennym gynlluniau newydd am adeilad newydd ymhen amser – 'gwyliwch y gofod yma'!)

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn achosi – bydd y gwasanaeth arferol yn ailddechrau ar 21 Medi.


Mae Casgliad Emrys Prosser ar-lein!



Mae'r catalog llawn, a baratowyd gan Jennie Hill (Archifydd y Project), bellach ar-lein. Mae hwn yn gasgliad pwysig sy'n cynnwys papurau personol Mr. Prosser, ei waith ymchwil hanes lleol a nifer o sleidiau. Casglodd rai o bapurau W. Ronald Williams, Cyfreithiwr, Neuadd Argoed, Tregaron; mae'r rhain gan fwyaf yn weithredoedd teitl i eiddo lleol. Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys cofnodion busnes John Williams, Rhydyronnen, Tregaron, a nifer o ddeunyddiau sy'n ymwneud â Chapel Bwlchgwynt (Methodistiaid Wesleaidd), Tregaron.

Gallwch ddod i hyd i'r casgliad yn Adran Prif Gasgliadau Eraill ein catalog ar-lein.


Llais y Cwch Gwenyn


Mae gwenyn yn y newyddion - a bellach, yn ein catalog hefyd! Rydym wedi bod yn rhestru dogfennau sy'n ymwneud â gwenyn a chadw gwenyn. Maent yn rhan o Gasgliad Gwilym Evans/Bridfa Blanhigion Cymru. Gellir dod o hyd i'r cyflwyniad a'r cyswllt i'r catalog fan yma.

Ysgol Uwchradd Dinas, Aberystwyth


Mae Casgliad Hywel Watkins/Ysgol Dinas bellach ar-lein. Gallwch ddod o hyd iddo yn Adran Prif Gasgliadau Eraill (sef 'Other Major Collections') ein catalog.


Dogfennau newydd yn yr Archifdy



Yn ddiweddar, derbyniwyd rhai dogfennau diddorol o ardal Llanbed ac fe'u rhestrwyd gennym fel Casgliad y Cyfreithwyr David Lloyd a'i Fab (DLL).

Ymddengys fod y casgliad yn cynnwys papurau proffesiynol Cwmni Cyfreithwyr David Lloyd a'i Fab, Llanbed. Mae aelodau'r teulu'n cynnwys David Lloyd, J Ernest Lloyd a William Reginald Lloyd. Yn ychwanegol i redeg cwmni cyfreithiol, roedd y teulu Lloyds yn gwasanaethu fel cyfreithwyr i Fwrdeistref Llanbed ac yn Glercod i'r Dref.
Roedd D. Lloyd yn Glerc i Warcheidwaid Undeb Llanbed ac roedd yntau hefyd yn Glerc Tref.
Gwasanaethodd J Ernest Lloyd fel Maer Llanbed a hefyd fel Clerc Tref.
Mae'r dogfennau yn adlewyrchu'r swyddogaethau hyn ac yn cynnwys cofnodion bwrdeistref yn ymwneud â gwella strydoedd, gwaith adeiladu, etholiadau ayyb, wardeniaid eglwys, cofnodion ynglyn â chasgliadau degwm; cofnodion yn ymwneud â Rheilffordd Manceinion a Milffwrd, Rheilffordd Ysgafn arfaethedig ar gyfer Cei Newydd, a phapurau amrywiol eraill. Mae rhai o'r cofnodion yn ymwneud â Sir Gaerfyrddin.

Mae'r gwaith wedi dechrau ar restru'r casgliad a fydd ar gael pan fydd cofnod y catalog byr yn ymddangos ar-lein o fewn wythnos neu ddwy o dan 'derbyniadau diweddar'.


Buddugoliaeth i Fwyta'n Iach!


Treuliodd Ania a Helen ddydd Sadwrn, y 7fed o Fawrth, yn 'Nigwyddiad y Ffrynt Cartref', a gynhaliwyd gan Ymlaen Ceredigion a Chymunedau'n Gyntaf. Lleolwyd yr achlysur undydd hwn yn y Neuadd Goffa ym Mhenparcau, ger Aberystwyth. Y nod oedd archwilio a dathlu'r agweddau mwyaf cadarnhaol o'r Ail Ryfel Byd yn yr ardal hon, gan gynnwys dulliau coginio'r cyfnod, a'r ymgyrchoedd 'Dig for Victory', er mwyn symbylu syniadau am fwyta'n iach a chynlluniau i gyfnewid gerddi lleol.
Darparodd Archifdy Ceredigion arddangosfa yn dangos ryseitiau - gan gynnwys ffefrynnau amser brecwast megis brechdanau caws wedi'i ffrio (hmm - roen i'n meddwl mai sôn am arferion bwyta iach a chynnil oedd hyn i fod!!), penwaig wedi ffrio a 'wheatmealies' sef pryd brecwast syml a wnaed trwy dostio sgwariau bychan iawn o fara ac ychwanegu llaeth a siwgr.
Hefyd, arddangoson ni daflenni o flynyddoedd y rhyfel a eglurai'r ffordd i dyfu a phreserfio ffrwythau a llysiau. I'r rhai oedd yn wirioneddol uchelgeisiol, roedd yna nodiadau ar gadw moch, cwningod, geifr a gwenyn.
Dosbarthwyd enghreifftiau o ryseitiau mwy blasus y gallai pobl eu coginio gartref. Cyfrannodd y ddwy ohonon ni at awyrgylch y dydd - ymddangosodd Helen mewn gwisg anghyffrdin gan honni ei bod yn un ddilys, a mwynhaodd Woolton Pie ardderchog i ginio (diolch i Henoed Penparcau am yr arlwyo gwych!), tra arddangosodd Ania ei sgiliau 'gwau dros fuddugoliaeth' gan drafod technegau gwewyr y cyfandir a gwewyr mwy traddodiadol yr ardal hon.
Carwn ddiolch i'r trefnwyr am y cyfle i gymryd rhan ac i'r nifer a ddaeth i drafod eu hatgofion o adeg y rhyfel gyda ni – fe'u mwynhawyd yn fawr iawn!


Croeso nôl Florrie!


Rydym yn croesawu casgliad arbennig yn ôl i Archifdy Ceredigion. Bu Casgliad Florrie Hamer (rhif dderbyn 1102, cyf. ADX/415) yn cael ei atgyweirio gan yr Uned Gadwraeth ym Mhrifysgol Dundee.
Mae Casgliad Florrie Hamer yn cynnwys ffolderi o lyfrau lloffion a gasglwyd gan y diweddar Miss Hamer. Roedd hi'n gydymaith i wraig fonheddig a chymysgodd gyda nifer o foneddigion Gogledd Ceredigion ym mlynyddoedd canol yr ugeinfed ganrif.
Ellen Hughes & Florrie Hamer

Capsiwn Florrie: Ellen Hughes and Florrie Hamer, 'Picnic on the lawn', Pendinas in the background. 1933.
Tu cefn y llun: Miss F. Hamer & Miss Nellie Hughes at Tanybwlch 1933 in the employ of Lord Ystwyth

Yn ei blynyddoedd olaf, casglodd lyfrau lloffion a gynhwysai llythyrau'r Teulu Pryse o Gogerddan, sef teulu yr oedd hi'n arbennig o agos iddynt. Mae ei nodiadau hanes lleol yn seiliedig ar ei hatgofion, ffotograffau, effemera a thoriadau allan o bapurau newydd lleol.
Roeddem yn falch o dderbyn cyllid oddi wrth yr Ymddiriedolaeth er Cadw Llawysgrifau Cenedlaethol a ganiataodd inni drefnu bod rhan o'r casgliad yn cael ei hadfer yn broffesiynol. Mae'r llyfrau lloffion, y tâp gludiog, a'r pennau blaen ffelt a ddefnyddid yn aml gan Florrie, yn cynnig sialensiau arbennig o ran eu cadwraeth hirdymor.
Mae safon y gadwraeth yn rhagorol a hyderwn y bydd hyn, ynghyd â thriniaeth ofalus yr ymchwilwyr, o gymorth i ddiogelu'r casgliad hudol hwn ymhell i'r dyfodol.


Catalog casgliad Ystad Hafod Uchtryd ar-lein nawr!


Ychwanegwyd y casgliad pwysig hwn yn ein catalog ar-lein. Mae'r cyflwyniad a'r ddolen ar gael yma. Arddangosfa ar-lein o ddogfennau o gasgliadau Ystad Hafod a Chyfeillion yr Hafod yn dod yn fuan.

Archifdy Ceredigion - gofalu am y gorffenol er lles y dyfodol
Gweinyddu