Chwilio

 
 

Newyddion



Ers dyfodiad y cyfryngau cymdeithasol prin y byddwn ni'n defnyddio'r dudalen newyddion yma ac felly rydym wedi penderfynu rhoi'r gorau iddi. Wrth reswm, dydyn ni ddim wedi dileu dim o'r hen newyddion (archifau yw ein pethau ni!) ond bellach mae'r newyddion newydd i gyd ar Facebook a Twitter (eitemau newyddion byr) neu ar ein blog. Gweler y dolenni isod.

Facebook: Archifdy Ceredigion Archives

Twitter: @CeredigionArch

Ein blog: yn Saesneg ac yn Gymraeg

Gellir cael hyd i'n hen newyddlenni (mewn fformat .pdf) fan hyn.

Aberystwyth Ddoe - ar lein!



Mrs Margaret Evans a ddaeth a'r casgliad gwreiddiol ynghyd ac fe'i harddangoswyd yn hen adeiladau'r orsaf reilffordd ac yn siop 'Enoc Huws'. Cafodd yr eitemau eu mwynhau'n fawr gan bobl Aberystwyth a thwristiaid am flynyddoedd lawer. Mae'r casgliad yn cynnwys gwisgoedd, arteffactau, dogfennau ac effemera sy'n gysylltiedig ag Aberystwyth y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif (ac yn aml y tu hwnt!) ynghyd a llawer o eitemau a roddwyd gan bobl y dref.
Cafodd y casgliad ei adael i'r Cyngor Sir ac aeth yr eitemau papur i Archifdy Ceredigion a'r arteffactau i Amgueddfa Ceredigion. Mae casgliad yr Archifdy'n cynnwys nifer o eitemau amrywiol, o natur ddarfodedig yn bennaf. Collwyd unrhyw drefn oedd ar y dogfennau flynyddoedd lawer yn ol, felly rydym wedi penderfynu eu dosbarthu'n thematig. Gallwch bori drwy'r casgliad yn ol thema neu chwilio am un gair syml er mwyn dod o hyd i eitemau penodol. Rydym wrthi'n catalogio'r casgliad yn raddol, felly bydd mwy o eitemau yn ymddangos ar y safle dros gyfnod o amser.

Mae ein gwefan newydd yn fyw!



Dros y 7 mis diwethaf buom wrthi'n gweithio ar y prosiect Drws i'r Gorffennol er mwyn sicrhau bod mwy o'r deunydd sydd gennym yn ein harchifau ar gael yn hwylus i�n defnyddwyr.

Y prosiect hwn yw'r diweddaraf mewn cyfres o welliannau a wnaed gan Archifdy Ceredigion dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'n dod yn sgil Symud Ymlaen, prosiect cynharach i gynnal archwiliad llawn o'n deunydd cyn inni adleoli. Gwnaed archwiliad trylwyr o bob blwch yn yr archif, gan sicrhau bod gennym gofnod cywir o'n holl gasgliadau, a'u bod yn gyflawn ac wedi'u storio'n gywir, i sicrhau eu bod yn cael eu diogelu'n barhaol. Helpodd hyn ni i drefnu'r broses o symud yr archifau o'r storfa eiconig ond hynod o anaddas yn Swyddfa'r Sir, (Queen's Hotel gynt) ar lan y mor yn Aberystwyth, i'n hadeilad safonol newydd yn Neuadd y Dref Aberystwyth ar ei newydd wedd. Roedd hefyd yn tynnu sylw at yr angen i ddiweddaru a gwella'n catalogau a'n gwefan, ac i'r perwyl hwnnw y dyfeisiwyd y prosiect Drws i'r Gorffennol.

Roedd amcanion y prosiect yn cynnwys:
• llwytho nifer o gatalogau casgliadau newydd ar ein gwefan er mwyn caniatau mynediad o bell i fwy o'n casgliadau
• ad-drefnu ac ailfformatio nifer o'n catalogau presennol ar y we i'w gwneud yn haws eu defnyddio, a sicrhau eu bod yn cwrdd a safonau catalogio archifau cyfoes.
• uwchraddio'n gwefan � yn bennaf peiriant chwilio mwy cywir a dibynadwy
gwella ymarferoldeb gweinyddol y wefan

Hyd yn hyn mae tua 950 o gatalogau newydd wedi'u cyflwyno, gyda mwy i ddod. Mae dros 200 o hen gatalogau wedi'u hailfformatio hefyd, gyda 440 pellach i ddod.

Mae ein gwefan wedi'i huwchraddio gyda'r peiriant chwilio newydd, sy'n fwy dibynadwy o lawer na'r hen un, ac mae'r swyddogaethau gweinyddol newydd, sy'n wirioneddol gyflymu'r broses o sicrhau bod catalogau newydd ar gael ar-lein, ar waith erbyn hyn.

Hoffem ddiolch i Drew Westerman, ein swyddog prosiect am Symud Ymlaen yn ogystal a Drws i'r Gorffennol. Daeth Drew atom yn syth ar ol ymgymhwyso fel archifydd ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn dilyn profiad defnyddiol iawn cyn y cwrs yn archwilio casgliadau yn Archifau Gorllewin Morgannwg. Yn 'geek' yn ol ei gyfaddefiad ei hun, mae wedi mynd ati gydag amynedd anhygoel a sylw diflino i fanylder yn ystod bob cam o'r ddau brosiect. Gyda Symud Ymlaen a Drws i'r Gorffennol Drew fu prif hwylusydd y newidiadau a'r gwelliannau, gan helpu i greu'r gwasanaeth archif rydym yn ei fwynhau heddiw.

O ran Drws i'r Gorffennol rhaid diolch hefyd i Nigel Callaghan, Technoleg Taliesin, a wrandawodd ar ein gofynion, gan weithio gyda ni i wneud ein gwefan yn well i'n defnyddwyr ledled y byd.

Hoffem ddiolch hefyd i wasanaethau cyfieithu a TG gwych a goddefgar Cyngor Sir Ceredigion am eu gwaith yn gwireddu'n gweledigaeth.

Rydym hefyd yn hynod o ddiolchgar i CyMAL am ddarparu cyngor ac arian grant ar gyfer y ddau brosiect. Heb y gefnogaeth honno ni fyddai'r un o'r ddau wedi bod yn bosib.


Diweddariad am yr ail-leoliad



Yn dilyn yr oedi (anochel efallai), byddwn yn symud i�r adeilad newydd ym mis Ebrill.
Bydd ein horiau agor cyfyngedig (gweler isod) yn parhau tan ddiwedd mis Mawrth. Yna, byddwn ar gau i�r cyhoedd drwy gydol mis Ebrill gan obeithio ailagor yn gynnar ym mis Mai. Gwyliwch y gofod hwn!

Lluniau o'n cartref newydd



Y cyntedd. Bydd ein hystafell chwilio ar y llawr cyntaf ar y dde


Dyma fydd ein hystafell chwilio


Gosod silffoedd symudol yn yr ystafelloedd diogel


Silffoedd symudol yn eu lle


Golwg arall o�r cyntedd.  Mae X yn dynodi�r fan!


Archifdy Ceredigion yn symud!



Ar ddechrau 2012 bydd Archifdy Ceredigion yn symud i Hen Neuadd y Dref, Aberystwyth (efallai bydd enw newydd ar gael erbyn hynny). Cafodd yr adeilad ei drawsnewid er mwyn ei ddefnyddio�n Archifdy�r Sir, Llyfrgell Aberystwyth a Chanolfan Dydd Aberystwyth.
Bydd yr ystafell-chwilio newydd ar y llawr cyntaf, yn hygyrch drwy risiau neu lifft, ac o fewn ychydig o fetrau�n unig o adran hanes lleol y llyfrgell. Bydd yr ystafelloedd cadarn yng nghefn yr adeilad ar y llawr gwaelod a�r llawr cyntaf; cawsant eu dodrefnu i ufuddhau i Safon Brydeinig BS5454, ar gyfer cadwraeth defnydd archifol. Yn yr ystafelloedd cadarn, ceir silffoedd symudol drwyddynt, a system atal- t�n nwy.
Wrth imi ysgrifennu hwn, mae�r ystafelloedd cadarn yn dal i gael eu datblygu, ond gobeithir cael tri chyfrifiadur i�r cyhoedd yn ogystal ��r hen beiriannau micro-ffurf. Bydd yma ford fawr i�r rhai sy�n chwilio a chistiau mapiau er mwyn dod o hyd i�r mapiau mwyaf poblogaidd yn hwylus. Rydym wedi achub rhai o�r cypyrddau llyfrau derw o�r Neuadd y Dref wreiddiol ac yn gobeithio defnyddio�r rhain ar gyfer ein casgliad ymgynghori. Mae�r hen staff dymunol yn dal yma i roi cymorth ichi gyda�ch ceisiadau (bydd pawb ac eithrio Anne Martin yn trosglwyddo i�r Archifdy newydd. Mae Anne wedi ymddeol yn ddiweddar). Edrychwn ymlaen at estyn croeso ichi i�r Archifdy Ceredigion newydd yng Ngwanwyn 2012. Gwyliwch yma am fwy o wybodaeth.



Oriau agor yn ystod Ionawr, Chwefror a Mawrth 2012


Mae Archifdy Ceredigion wrthi�n paratoi ar gyfer symud i adeiladau newydd (gweler isod) yn 2012. Am fod hyn yn creu llawer o waith yn y cefndir rydym - er yn gyndyn - wedi penderfynu mai gwasanaeth cyfyngedig yn unig y gallwn ei ddarparu i�r cyhoedd wrth inni gwblhau�r broses hon.

Felly, ar ddydd Llun a dydd Iau yn unig y byddwn ar agor.

• Bydd oriau agor dydd Llun yn aros yr un fath sef 10yb � 6yh
• Bydd oriau agor dydd Iau yn ymestyn am un awr o 10yb � 5yp

O ydych chi�n dod o gyfandir arall, ac ar y dyddiau Mawrth, Mercher neu Wener yn unig y gallwch ddod, anfonwch air atom i roi gwybod inni.
Gobeithiwn symud i mewn ar ddiwedd mis Chwefror. Cadwch lygad ar y gwefannau am y newyddion diweddaraf.


Bellach, mae casgliad Ysgol Ramadeg Ardwyn ar-lein


Rydym yn hapus iawn i gyhoeddi fod Catalog Casgliad Ysgol Ardwyn ar-lein o�r diwedd. Paratowyd y catalog manwl a thrwyadl tua blwyddyn yn �l gan Peter Lewis (a oedd bryd hynny newydd ennill ei gymhwyster fel archifydd) ond mae wedi cymryd peth amser i�w baratoi ar gyfer y we.
Bu Ysgol Ardwyn (Ysgol Sirol Aberystwyth) yn darparu addysg uwchradd yn ardal Aberystwyth o 1896-1973, pryd yr ad-drefnwyd y sefydliad i greu�r ddwy ysgol uwchradd bresennol sef Penweddig (cyfrwng Cymraeg) a Phenglais (cyfrwng Saesneg). Derbyniwyd y casgliad oddi wrth y Dr. Huw Spencer Lloyd ac mae ei lyfr The History of Aberystwyth County School (Aberystwyth 1996) yn darparu cyflwyniad cynhwysfawr i�r pwnc. Am ymchwil pellach, rydym yn argymell darllenwyr i bori drwy�r casgliad hwn.
Gallwch weld y rhestr yma.

NEWYDD! CYNLLUNIAU RHEOLI ADEILADU � ADNAWDD GWYCH AR GYFER YMCHWILIO I HANES TAI A DATBLYGIADAU YN ABERYSTWYTH



Rydym yn falch iawn i gyhoeddi fod Cam Un o Gatalog Cynlluniau Adeiladau Aberystwyth wedi cyrraedd ein gwefan. Nid yw�r gwaith eto�n gyflawn ond mae digon o�r casgliad wedi�i gatalogio iddo fod o fudd i ymchwilwyr. Carem ddiolch i�n byddin wrol o wirfoddolwyr a gweithwyr dan hyfforddiant, o�r gorffennol a�r presennol, sef Matthew, Jake, Gary, Hannah, Zbigniew a Liz, am eu gwaith campus ar y project.

Aeth Aberystwyth trwy gyfnod o ehangu ac ailadeiladu ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau�r 20fed ganrif. Roedd cyfreithiau cynllunio�n llai caeth bryd hynny nag yn awr; er hynny, roedd yn rhaid cyflwyno cais, ynghyd � chynllun (wedi�i lunio gan bensaer fel arfer) er cymeradwyaeth yr Awdurdod Cynllunio sef Adran Rheoli Adeiladu Bwrdeistref Aberystwyth. Mae nifer o�r cynlluniau hyn wedi goroesi a bellach, mae yna restr ar gael. Maent yn amrywio o gynlluniau ar gyfer tai cwbl newydd - megis y terasau bric coch o gwmpas Ffordd Stanley - i estyniadau, ystafelloedd ymolchi newydd a hyd yn oed �troi stabl yn fodurdy�!

Cyf. ABM/BC/S/11


Wrth gyflwyno cynllun, caiff ei gofnodi mewn lejer o dan enw�r stryd (neu ardal) lle bwriedir codi�r adeilad. Rydym wedi cadw�r trefniant hwn: mae�n darparu ar gyfer ehangiad (petai cynlluniau pellach yn cael eu darganfod) heb gyfaddawdu strwythur y catalog. Mae cofnodion y catalog yn dangos y rhif cyfeirnod newydd sy�n ymgorffori (ar �l ABM/BC) llythyren gyntaf enw�r stryd fel y mae nawr, a hefyd cyfuniad y llythyren/rhif oedd iddi yn y lejer. Os nad yw llythrennau�r stryd yn cyfateb, y rheswm am hynny yw bod enw�r stryd wedi newid, ambell waith yn fwy nag unwaith.

Ni roir rhif y ty bob tro, ond rhyw ddydd gobeithiwn baru�r cynlluniau � rhifau ac enwau�r tai presennol.

Dilynwch y ddolen hon i weld y catalog.

Peiriant Chwilio Newydd



Mae�n bleser gennym gyhoeddi ein peiriant chwilio newydd ar y wefan. Efallai ichi sylwi fod yr un hen braidd yn fympwyol � neu efallai na chawsoch unrhyw ganlyniadau i�ch ymchwiliad o gwbl! Dylai�r peiriant newydd fod yn welliant mawr.

Dyma�r prif newidiadau:

1) Bellach, dylai ddychwelyd canlyniadau yn �l rhyw fath o flaenoriaeth � dylai ymadroddion llawn ddod allan yn gyntaf, gydag ymadroddion rhannol yn is ar y rhestr. Tueddir i roi blaenoriaeth uwch i deitlau yn hytrach na thestunau sy�n cyfateb. Tr�wch 'Llanddewi Brefi'
2) Gall ymdopi � nodau megis �/� (a ddefnyddir yn aml yn ein rhifau catalog / cyfeirnod) e.e. mae chwiliad ar gyfer ADX/123 bellach yn gweithio (er dim ond yn rhan Catalog ac nid yn rhan Derbyniadau Newydd y canlyniadau; hyderwn y caiff hyn ei ddatrys yn fuan)
3) Mae�r peiriant braidd yn rhyfedd gyda geiriau 3-llythyren � mae�n pigo geiriau sy�n dechrau gyda�r ymadrodd e.e. bydd �cat� yn dod o hyd i �cataract�.
4) Unig bwrpas yr opsiwn rhagosodedig yw chwilio am gofnodion sy�n cyfateb i�r holl eiriau a gofnodwyd � mae�r opsiwn i gyfateb ag unrhyw rai ohonynt ar gael.
5) Mae�r ffilter i 'chwilio am set benodol o gasgliadau' wedi�i dynnu ymaith am y tro ond bydd yn dychwelyd maes o law.
6) Caiff geiriau o fewn ymadroddion gydag 1 neu 2 lythyren eu hanwybyddu�n gyfan gwbl.
7) Bellach, mae chwiliadau�r Gofrestr Dderbyniadau yn amlygu cyfatebion.

Mae croeso mawr ichi anfon eich sylwadau a�ch awgrymiadau atom!

Mae Casgliad Emrys Prosser ar-lein!



Mae�r catalog llawn, a baratowyd gan Jennie Hill (Archifydd y Project), bellach ar-lein. Mae hwn yn gasgliad pwysig sy�n cynnwys papurau personol Mr. Prosser, ei waith ymchwil hanes lleol a nifer o sleidiau. Casglodd rai o bapurau W. Ronald Williams, Cyfreithiwr, Neuadd Argoed, Tregaron; mae�r rhain gan fwyaf yn weithredoedd teitl i eiddo lleol. Mae�r casgliad hefyd yn cynnwys cofnodion busnes John Williams, Rhydyronnen, Tregaron, a nifer o ddeunyddiau sy�n ymwneud � Chapel Bwlchgwynt (Methodistiaid Wesleaidd), Tregaron.

Gallwch ddod i hyd i�r casgliad yn Adran Prif Gasgliadau Eraill ein catalog ar-lein.

Llais y Cwch Gwenyn


Mae gwenyn yn y newyddion - a bellach, yn ein catalog hefyd! Rydym wedi bod yn rhestru dogfennau sy�n ymwneud � gwenyn a chadw gwenyn. Maent yn rhan o Gasgliad Gwilym Evans/Bridfa Blanhigion Cymru. Gellir dod o hyd i�r cyflwyniad a�r cyswllt i�r catalog fan yma.

Ysgol Uwchradd Dinas, Aberystwyth


Mae Casgliad Hywel Watkins/Ysgol Dinas bellach ar-lein. Gallwch ddod o hyd iddo yn Adran Prif Gasgliadau Eraill (sef 'Other Major Collections') ein catalog.

Dogfennau newydd yn yr Archifdy



Yn ddiweddar, derbyniwyd rhai dogfennau diddorol o ardal Llanbed ac fe�u rhestrwyd gennym fel Casgliad y Cyfreithwyr David Lloyd a'i Fab (DLL).

Ymddengys fod y casgliad yn cynnwys papurau proffesiynol Cwmni Cyfreithwyr David Lloyd a�i Fab, Llanbed. Mae aelodau�r teulu�n cynnwys David Lloyd, J Ernest Lloyd a William Reginald Lloyd. Yn ychwanegol i redeg cwmni cyfreithiol, roedd y teulu Lloyds yn gwasanaethu fel cyfreithwyr i Fwrdeistref Llanbed ac yn Glercod i�r Dref.
Roedd D. Lloyd yn Glerc i Warcheidwaid Undeb Llanbed ac roedd yntau hefyd yn Glerc Tref.
Gwasanaethodd J Ernest Lloyd fel Maer Llanbed a hefyd fel Clerc Tref.
Mae�r dogfennau yn adlewyrchu�r swyddogaethau hyn ac yn cynnwys cofnodion bwrdeistref yn ymwneud � gwella strydoedd, gwaith adeiladu, etholiadau ayyb, wardeniaid eglwys, cofnodion ynglyn � chasgliadau degwm; cofnodion yn ymwneud � Rheilffordd Manceinion a Milffwrd, Rheilffordd Ysgafn arfaethedig ar gyfer Cei Newydd, a phapurau amrywiol eraill. Mae rhai o�r cofnodion yn ymwneud � Sir Gaerfyrddin.

Mae�r gwaith wedi dechrau ar restru�r casgliad a fydd ar gael pan fydd cofnod y catalog byr yn ymddangos ar-lein o fewn wythnos neu ddwy o dan �derbyniadau diweddar�.

Croeso n�l Florrie!


Rydym yn croesawu casgliad arbennig yn �l i Archifdy Ceredigion. Bu Casgliad Florrie Hamer (rhif dderbyn 1102, cyf. ADX/415) yn cael ei atgyweirio gan yr Uned Gadwraeth ym Mhrifysgol Dundee.
Mae Casgliad Florrie Hamer yn cynnwys ffolderi o lyfrau lloffion a gasglwyd gan y diweddar Miss Hamer. Roedd hi�n gydymaith i wraig fonheddig a chymysgodd gyda nifer o foneddigion Gogledd Ceredigion ym mlynyddoedd canol yr ugeinfed ganrif.
Ellen Hughes & Florrie Hamer

Capsiwn Florrie: Ellen Hughes and Florrie Hamer, 'Picnic on the lawn', Pendinas in the background. 1933.
Tu cefn y llun: Miss F. Hamer & Miss Nellie Hughes at Tanybwlch 1933 in the employ of Lord Ystwyth

Yn ei blynyddoedd olaf, casglodd lyfrau lloffion a gynhwysai llythyrau�r Teulu Pryse o Gogerddan, sef teulu yr oedd hi�n arbennig o agos iddynt. Mae ei nodiadau hanes lleol yn seiliedig ar ei hatgofion, ffotograffau, effemera a thoriadau allan o bapurau newydd lleol.
Roeddem yn falch o dderbyn cyllid oddi wrth yr Ymddiriedolaeth er Cadw Llawysgrifau Cenedlaethol a ganiataodd inni drefnu bod rhan o�r casgliad yn cael ei hadfer yn broffesiynol. Mae�r llyfrau lloffion, y t�p gludiog, a�r pennau blaen ffelt a ddefnyddid yn aml gan Florrie, yn cynnig sialensiau arbennig o ran eu cadwraeth hirdymor.
Mae safon y gadwraeth yn rhagorol a hyderwn y bydd hyn, ynghyd � thriniaeth ofalus yr ymchwilwyr, o gymorth i ddiogelu�r casgliad hudol hwn ymhell i�r dyfodol.

Catalog casgliad Ystad Hafod Uchtryd ar-lein nawr!


Ychwanegwyd y casgliad pwysig hwn yn ein catalog ar-lein. Mae'r cyflwyniad a'r ddolen ar gael yma. Arddangosfa ar-lein o ddogfennau o gasgliadau Ystad Hafod a Chyfeillion yr Hafod yn dod yn fuan.



Ionawr 2009� mae�r wefan newydd, well, yn mynd yn fyw


Mae gwefan Archifdy Ceredigion yn fyw ers mwy na phedair blynedd bellach, ac roeddem yn teimlo ei bod yn hen bryd iddi gael gweddnewidiad. Mae modd o hyd i chi chwilio drwy ein catalog ar-lein, ond bellach mae�n llawer haws i ni ychwanegu disgrifiadau newydd. Mae gennym yn awr restr gwbl gyfredol o ychwanegiadau i�r Casgliadau. Hoffem ddiolch i Nigel Callaghan am ei waith caled yn gwella�r wefan; gobeithiwn y bydd yr holl elfennau newydd yn ein galluogi ni i ddarparu llwyth o wybodaeth newydd, gyfoes, am y gwasanaeth!

Hefyd, mae�r strwythur yn ei le i�n galluogi i ychwanegu llawer mwy o ddeunyddiau ar-lein yn y dyfodol � cop�au digidol o luniau a dogfennau � yn ogystal ag �arddangosfeydd� ar them�u penodol.

Casgliad Cyfeillion yr Hafod


Mae archifydd prosiect Helen Rowe wedi cwblhau catalog y casgliad uchod. Gellwch weld y cyflwyniad a'r ddolen i'r catalog yma.

Wyneb newydd yn yr Archifdy


Croeso i Patrycja Duszynska fel archifydd dan hyfforddiant. Mae Patrycja yn gweithio gyda ni am ran o�r wythnos, a chydag Adran Archifau a Rheoli Cofnodion Prifysgol Aberystwyth ar y dyddiau eraill.

Oriau agor hirach


Rydym yn falch o gyhoeddi bod y swyddfa ar agor am bum awr ychwanegol bob wythnos � bellach nid ydym yn cau dros amser cinio. Yr oriau agor newydd yw 10 y bore hyd 7 yr hwyr ar ddydd Llun, 10 y bore hyd 4.30 y prynhawn ar ddydd Mawrth a dydd Mercher, a 10 y bore hyd 4 y prynhawn ar ddydd Iau a dydd Gwener.

Gwirfoddoli yn yr Archifdy


Os oes gennych ddiddordeb dwfn mewn archifau, a rhywfaint o amser ar eich dwylo, efallai y byddech yn hoffi cynnig eich hun fel gwirfoddolwr yn Archifdy Ceredigion. Edrychwch ar ein tudalen Gwirfoddolwyr.
Datblygwyd y wefan gan Technoleg Taliesin
Gweinyddu