Chwilio

 
 

POLISI AR Y DEFNYDD O ARCHIFAU GAN Y CYFRYNGAU



Mae ar Archifdy Ceredigion angen rhybudd o flaen llaw os bwriedir defnyddio dogfennau gwreiddiol ar gyfer ffilmio. Byddai'n fuddiol pe gallai aelod o'r tîm cynhyrchu drafod y ffilmio arfaethedig gyda staff yr Archifdy o leiaf 2 wythnos cyn y ffilmio (ac yn gynt na hynny yn achos ffilmio ar raddfa fawr).

Byddai'n fuddiol pe gallai aelod o'r tîm cynhyrchu ymweld â'r Archifdy i asesu ei addasrwydd fel lleoliad ar gyfer ffilmio. Cyfrifoldeb y tîm cynhyrchu yw cadarnhau addasrwydd o'r fath.

Rhaid sicrhau caniatâd ysgrifenedig gan berchnogion unrhyw ddogfennau y bwriedir eu defnyddio yn ystod y ffilmio. Bydd Archifdy Ceredigion yn gwneud cais am ganiatâd o'r fath ar ran y cwmni. Cynhwysir tâl am hyn yn y ffi cyfleuster.

Bydd angen cael cyfeiriadau cywir ar gyfer y dewis terfynol o ddogfennau i'w defnyddio yn ystod y ffilmio, a hynny o leiaf 2 ddiwrnod cyn y ffilmio. Byddai'n fuddiol pe gallai aelod o'r tîm cynhyrchu ymweld â'r Archifdy i ymgynghori â'r catalogau i'r pwrpas hwn.

Mesurau ymarferol i'w mabwysiadu yn ystod ffilmio, neu yn ystod unrhyw ddefnydd arall o ddogfennau gan y cyfryngau

• Rhaid arwyddo o flaen llaw gytundeb i gadw at yr amodau a osodir yn y ddogfen hon. Ni chaniateir unrhyw ffilmio heb gytundeb wedi'i arwyddo.
• Blaenoriaeth Archifdy Ceredigion yw amddiffyn y dogfennau a'u cadw'n ddiogel.
• Cyflwynir dogfennau ar gyfer ffilmio yn unig lle bo'r perygl o niwed yn fychan iawn.
• Bydd ffilmio'n digwydd o fewn oriau agor arferol Archifdy Ceredigion. Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir trefnu i ffilmio y tu allan i'r oriau arferol, am ffi ychwanegol ac yn dibynnu ar argaeledd staff.
• Fel arfer, dim ond yn Archifdy Ceredigion y bydd ffilmio'n digwydd. Bydd y ffilmio a'r defnydd o ddogfennau'n cael eu harolygu'n gyson gan staff yr Archifdy.
• Rhaid i'r ffilmio ddod i ben ar gais y staff, ac mae'r archifdy ymhellach yn cadw'r hawl i dynnu dogfen yn ôl o'r ffilmio os ymddengys ei bod mewn perygl.
• Bydd rheolau cyffredinol Archifdy Ceredigion ar y defnydd o archifau mewn grym.
• Bydd gweithdrefnau argyfwng Archifdy Ceredigion mewn grym – os bydd y larwm tân yn seinio, daw'r ffilmio i ben ar unwaith a rhaid i bawb fynd allan o'r adeilad.
• Ni ddylai'r dogfennau fod yn agos at unrhyw wres uchel. Dylid defnyddio goleuadau oer lle bo hynny'n bosibl.
• Rhaid trin y dogfennau â gofal a pharch. Os oes angen eu cyffwrdd o gwbl, dylai'r tîm cynhyrchu wneud hynny cyn lleied ag y bo modd. Os oes angen cyffwrdd y dogfennau'n aml, cedwir yr hawl i fynnu defnyddio copïau 'dymi' yn hytrach na'r rhai gwreiddiol. Gall yr Archifdy ddarparu'r rhain os rhoddir digon o rybudd o flaen llaw.
• Ni chaniateir defnyddio'r dogfennau fel props artistig. Ni chaiff neb ond y staff osod y dogfennau yn eu lle. Ni chaniateir gosod dogfennau y naill ar ben y llall i greu effaith artistig. Os dymunir creu effaith o'r fath, rhaid defnyddio copïau 'dymi'.
• Yn ystod y ffilmio, rhaid gwneud defnydd o unrhyw bwysau, crud gorffwys neu ddeunyddiau amddiffyn a ddarparwyd gan Archifdy Ceredigion. Derbynnir na ellir ffilmio drwy lewys polyester amddiffynnol, ond dylid cyffwrdd cyn lleied ag y bo modd y dogfennau hynny a fyddai fel arfer yn cael eu hamddiffyn yn y dull hwn.
• Rhaid cynnwys cydnabyddiaethau cywir ar y gwaith gorffenedig.

Ffioedd
• Rhaid cytuno o flaen llaw ar y ffi cyfleuster.
• Bydd y ffi cyfleuster yn cynnwys cost llogi'r adeilad, amser y staff, defnyddio'r cyfleustodau, defnydd o ddogfennau a/neu gopïau 'dymi', cost unrhyw asesiad cadwraethol rhagarweiniol, a chydnabyddiaeth o arbenigedd proffesiynol y staff.
• Rhaid darparu cyn y ffilmio fanylion talu'r anfoneb (i ble ac at bwy).

Mae croeso ichi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gopi o ffurflen cytundeb y contract.
Datblygwyd y wefan gan Technoleg Taliesin
Gweinyddu