Ymweld â'r Archifdy![]() Estynnir croeso cynnes i bawb sy'n ymweld ag Archifdy Ceredigion. Beth bynnag yw eich diddordebau a'ch meysydd astudio – boed hynny'n hanes teuluol, hanes lleol, prosiectau addysgol, hen rifau cofrestru ceir a llawer o bynciau eraill – dewch i weld sut y gallwn ni eich helpu. Gall staff yr Archifdy gynnig trywydd ymchwil priodol i chi, a'ch cynghori sut i ddefnyddio'r dogfennau. Mae Archifdy Ceredigion yn aelod o gynllun tocynnau darllenwyr CARN (sef County Archives Research Network). Os oes gennych gerdyn CARN eisoes, dewch ag e gyda chi. Os nad oes, gallwn ddarparu un yn rhad ac am ddim. Dylech ddod â dau ddull adnabod gyda chi (rhaid i un ohonynt gynnwys eich cyfeiriad cartref). Mae'r tocyn CARN yn caniatáu mynediad i bob archifdy sy'n rhan o'r cynllun, heb angen pellach i brofi pwy ydych chi. Gallwch ddarllen rhagor o fanylion am y cynllun yn y fan yma. Oriau AgorOriau Agor Newydd yn dechrau Dydd Llun, 30 Tachwedd 2009 Dydd Llun 10yb – 6yh Dydd Mawrth 10yb – 5yp Dydd Mercher 10yb – 5yp Dydd Iau 10yb - 4yp Dydd Gwener 10yb - 4yp (Ar gau ar Wyliau Banc a Gwyliau'r Cyngor. Os ydych yn teithio o bell, cysylltwch â ni cyn cychwyn i wneud yn siwr ein bod ar agor.) ![]() LleoliadMae'r Archifdy wedi'i leoli yn swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion (yr hen Queen's Hotel), ym mhen gogleddol y prom yn Aberystwyth, gwaith pum munud o gerdded o'r pier, a thua deng munud o'r gorsafoedd trên a bws. Mae modd parcio'n ddi-dâl yn y dref ac ar hyd y prom, ond dylid cofio bod tref Aberystwyth yn gallu bod yn brysur iawn yn ystod tymor y gwyliau. Mae yna hefyd nifer o feysydd parcio talu-ac-arddangos yn y dref. (Map Arolwg Ordnans 1890 yw'r un ar y dde; mae hwn yn rhoi gwybodaeth fwy diweddar) CyfleusterauCadeiriau olwyn Mae modd i bobl mewn cadeiriau olwyn gael mynediad i'r Archifdy. Bwyd a Diod Ni chaniateir unrhyw fwyd na diod yn yr ystafell ddarllen. Pan ddaw hi'n amser cinio (neu os yw paned o goffi'n ormod o demtasiwn!) beth am fynd am dro iachusol ar hyd y prom i Ffordd y Môr, lle ceir dewis helaeth o dai bwyta? A dweud y gwir, mae Aberystwyth yn llawn o gaffis a bwytai – rydych yn siwr o ddod o hyd i rywle at eich dant! Rheolau i DdarllenwyrYn yr Ystafell Ddarllen • Ni chaniateir bwyd na diod (yn cynnwys melysion/fferins) yn yr ystafell ddarllen • Dylech ddiffodd tôn-ganu eich ffôn symudol pan fyddwch yn defnyddio'r archifdy • Ni ddylid gosod bagiau ar y byrddau yn yr ystafell ddarllen • Dim ond gyda chaniatâd yr Archifydd y gellir llungopïo neu sganio • Dim ond gyda chaniatâd yr Archifydd y gellir tynnu ffotograffau • Dylai plant a'u rhieni barchu'r awyrgylch tawel yn yr ystafell ddarllen Mae'r rhan fwyaf o'r dogfennau'n unigryw, ac mae rhai ohonynt yn fregus. Rhaid eu trafod â gofal mawr • Gwnewch yn siwr bod eich dwylo'n lân • Trowch y tudalennau'n ofalus (a pheidiwch byth â llyfu'ch bysedd i helpu'r broses, os gwelwch yn dda!) • Ni ddylid pwyso ar ddogfennau, na'u cyffwrdd yn ddiangen • Peidiwch â gorffwys eich pad ysgrifennu eich hun ar y ddogfen • Defnyddiwch bensil bob amser, nid pìn ysgrifennu • Defnyddiwch astell lyfrau ar gyfer cyfrolau wedi'u rhwymo • Ni chaniateir i unrhyw un gael mynediad at fwy na phedair dogfen ar y tro Os hoffech help wrth ddefnyddio dogfen, gofynnwch i un o'r staff. Llefydd i aros yn lleolOs oes angen i chi aros dros nos, gall y Swyddfa Dwristiaeth yn Aberystwyth roi manylion am westai lleol i chi. ![]() Archifdy Ceredigion - gofalu am y gorffenol er lles y dyfodol
|