Gwybodaeth bwysig am Rwydwaith Ymchwil yr Archifau Sirol (CARN)(Atgynhyrchwyd gyda chaniatâd y Cofrestrydd Mygedol, Rhwydwaith Ymchwil yr Archifau Sirol) Mae tocyn CARN yn caniatáu mynediad i bob archifdy sy'n rhan o'r cynllun, heb orfod darparu dull adnabod pellach. Noder y canlynol, os gwelwch yn dda: Peidiwch ag anghofio'ch tocyn CARN. Hebddo, mae'n bosibl na chaniateir i chi gael mynediad at ddogfennau mewn rhai archifdai sy'n rhan o'r cynllun. Mae'r tocyn yn parhau'n eiddo i Gymdeithas y Prif Archifyddion mewn Llywodraeth Leol, a'r archifdai sy'n rhan o'r cynllun. Dylech nodi'r amodau a welir ar gefn y tocyn. Nid yw tocynnau CARN yn eithrio eu perchnogion rhag unrhyw ffioedd neu daliadau a godir gan archifdai sy'n rhan o'r cynllun. Yn ogystal, disgwylir i chi gadw at unrhyw reolau ychwanegol a fydd, o bosibl, yn cael eu gosod gan yr archifdai hyn. Mewn llawer ohonynt, bydd angen i chi lofnodi datganiad ar wahân er mwyn cydymffurfio â rheoliadau'r archifdy. Dylech gymryd pob gofal o'ch tocyn; efallai y bydd yn rhaid talu am gael un yn ei le. Mae'n bosibl y cymerir eich tocyn oddi arnoch tra bydd dogfennau yn eich meddiant. Fel arfer, ni ddychwelir eich tocyn hyd oni fydd y dogfennau a roddwyd i chi wedi cael eu dychwelyd a'u gwirio gan staff yr ystafell ddarllen. I osgoi camddefnyddio tocynnau, os byddwch yn colli eich tocyn CARN dylech roi gwybod ar unwaith i un o'r archifdai sy'n rhan o'r cynllun, neu gysylltu'n uniongyrchol â'r Cofrestrydd Mygedol. Mae'r cynllun wedi'i gofrestru gyda'r Cofrestrydd Diogelu Data. Mae hyn yn rhoi hawliau penodol i chi ynghylch y dull y caiff gwybodaeth amdanoch ei storio. Mae croeso i chi gysylltu â'r Cofrestrydd Mygedol yn y cyfeiriad isod am ragor o wybodaeth. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y cynllun, cysylltwch (yn Saesneg!) â: The Hon. Registrar County Archives Research Network Cornwall Record Office County Hall TRURO TR1 3AY pbrough@cornwall.gov.uk Archifdy Ceredigion - gofalu am y gorffenol er lles y dyfodol
|